| Beth yw TCC? |
|
|
|
|
Sefydlwyd TCC ym 1995 ac fe’i cofrestrwyd fel elusen yn 2001. TCC yw’r unig Sefydliad Trefnu Eang yng Nghymru. Yn Wrecsam, Gogledd Cymru mae swyddfa TCC, ond mae’r gwaith yn ymestyn dros y tair sir sy’n ffurfio Gogledd Ddwyrain Cymru: Wrecsam, Sir Fflint a Sir Ddinbych. Clymblaid eang o grwpiau o amryw ffydd a chymunedau gwahanol sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella hinsawdd bywyd pobl yn eu cymunedau yw TCC.
Gwnawn hyn drwy:
DATBLYGU ARWEINYDDIAETH GYMUNEDOL DRWY WEITHREDU A HYFFORDDIANT“Ers i mi glywed amdanoch chi a’ch gwaith ar y cyd, rwyf wedi teimlo nad y gwaith sy’n cael ei wneud gennych yn unig sy’n bwysig, ond hefyd eich ffordd chi o’i wneud - cyfnerthu’r naill a’r llall mewn ffyrdd sydd angen eu hail-adrodd mewn cynifer o gymunedau. Rwy’n gobeithio yr ewch o nerth i nerth ac y bydd llawer mwy yn clywed amdanoch ac yn dysgu oddi wrthych. Mae gwir gyfranogi mewn materion sy’n effeithio ar ein bywydau yn rhywbeth sydd bob amser yn barnu ac yn cryfhau democratiaeth.” Yr Athro Michael Taylor, Prifysgol Birmingham, Cyn-gyfarwyddwr Cymorth Cristnogol. |
Beth yw TCC? 

