- Dysgu dinasyddiaeth mewn ysgolion yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a chyd-weithio a hyfforddi cynghorau ysgolion yn arbennig.
- Hyrwyddo Masnach Deg yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, annog defnydd ehangach o nwyddau Masnach Deg wrth lunio cytundebau a chyrchu at ein nod i weld Cymru fel y wlad Fasnach Deg gyntaf yn y byd.
- Parhau’r gwaith yn Wrecsam gyda Grŵp Ymgynghori Cymunedol yr Heddlu a datblygu’r cyswllt rhwng yr heddlu a’r gymuned.
- Mae TCC yn gweithio ar fater Cyflog Byw, er mwyn cyflwyno urddas, gwella safonau byw a lleihau’r boen o fyw mewn tlodi. Rydym yn ceisio sicrhau bod cymal cyflog byw yn cael ei gynnwys yn holl gytundebau’r Cynulliad yng Nghymru. Cynhyrchodd TCC ddogfen ‘Cyflog Byw’ sy’n seiliedig ar ymchwil aelodau’r TCC; cafodd hon ei dadansoddi gan goleg lleol.
- Rydym yn gweithio’n frwd i geisio sicrhau’r amgylchiadau gorau posib, lleihad mewn sŵn, a monitro amgylcheddol, ar gyfer odyn newydd Castle Cement fydd yn llosgi gwastraff cemegol a theiars fel tanwydd mewn cymuned leol yn Sir Fflint.
- Cyd-weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i sicrhau cynllun rheoli gwastraff cynaliadwy sy’n cynnwys ail-gylchu.
- Sicrhau gofal arbenigol ar gyfer cleifion Clefyd Parkinson a’u teuluoedd.
|