top of page
HMH Cymraeg.png

Ar gyfer ysgolion uwchradd sy’n cynorthwyo gyda lles meddyliol yng Nghymru. 

Croeso! 
Adnodd a rhestr wirio ar gyfer ysgolion yw ‘Hafan Meddyliau Iach', gyda gwobr i gydnabod ymrwymiad ysgol i hybu lles meddyliol cymuned yr ysgol yn ei chyfanrwydd. Cynlluniwyd y pecyn gan bobl ifanc gyda chefnogaeth TCC (Trefnu Cymunedol Cymru / Together Creating Communities). 

​

Gydag un ym mhob pedwar o bobl ifanc yn profi problemau iechyd meddwl bob blwyddyn, mae dealltwriaeth a chymorth yn yr ysgol yn angenrheidiol er mwyn hybu lles meddyliol. Mae lles meddyliol cadarnhaol o fudd i gymuned yr ysgol drwyddi draw, gan alluogi aelodau staff, myfyrwyr a theuluoedd i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.

​

​

​

​

 

Cofrestrwch eich ysgol gan ddefnyddio'r ffurflen isod. Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwch yn cael eich ailgyfeirio i dudalen we newydd gyda mynediad i syniadau ac adnoddau i’ch cynorthwyo i fodloni yr holl feini prawf ar y rhestr wirio ac ennill eich Gwobr Hafan Meddyliau Iach. Gallwch hefyd lawrlwytho y dystysgrif ‘yn gweithio tuag at ddod yn Hafan Meddyliau Iach’ y gallwch ei harddangos drwy gydol eich taith. Byddem wrth ein bodd yn gweld y camau y byddwch yn eu cymryd yn eich ysgol – cofiwch rannu eich lluniau â ni ar FacebookInstagram a Twitter.

​

​

​

​

Os yw eich ysgol eisoes wedi bod yn gweithio drwy’r adnodd a’r rhestr wirio, gallwch gyflwyno’r dystiolaeth ar gyfer eich Gwobr Hafan Meddyliau Iach drwy’r ddolen uchod.

Hafan Meddyliau Iach 2021 - Cover page.p

Register your school using the form at the bottom of this page. Once you have registered, you will be redirected to a new webpage where you can access ideas and resources to support you to meet each point of the checklist and achieve your Healthy Minds Haven Award. You can also download a 'working towards becoming a Healthy Minds Haven' certificate you can display throughout your journey. 

​

​

​

If your school has already been working through the resource and checklist, you can submit the evidence for your Healthy Minds Haven Award via the link above. 

Ariennir ein gwaith gyda phobl ifanc gan sefydliadau Paul Hamlyn ac Esmée Fairbairn drwy’r Act for Change Fund.

PHF & Esmee graphics.PNG
bottom of page