top of page
HMH Cymraeg.png

Ar gyfer ysgolion uwchradd sy’n cynorthwyo gyda lles meddyliol yng Nghymru. 

Helô!

 

Diolch i chi am ymuno â phrosiect Hafan Meddyliau Iach. Rydym mor falch eich bod am wneud eich ysgol yn fwy cefnogol ym maes iechyd meddwl.

Hafan Meddyliau Iach 2021 - Cover page.p

Rydym yn deall y bydd dod yn Hafan Meddyliau Iach yn gofyn am eich amser, eich egni a’ch ymroddiad, ond mae hyd yn oed ond cymryd y cam cyntaf hwn yn dangos i gymuned eich ysgol yn ei chyfanrwydd bod lles y gymuned yn bwysig i chi. Cliciwch y bocs glas i lawrlwytho adnoddau a syniadau ynghylch sut y gallwch fodloni meini prawf Hafan Meddyliau Iach.

Efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio i ni yr un fath â’r hyn fydd yn gweithio yng nghymuned eich ysgol chi, felly rydym yn eich annog i ddechrau trafod iechyd meddwl, a’r gweithredu yr hoffai cymuned eich ysgol ei weld, mewn ffordd gadarnhaol ac agored. Gallwch hefyd lawrlwytho y dystysgrif ‘yn gweithio tuag at ddod yn Hafan Meddyliau Iach’ drwy gydol eich taith, i ddangos eich ymrwymiad i feithrin iechyd meddwl da.

 Pan fyddwch wedi bodloni’r holl feini prawf, llenwch y ffurflen ar ein gwefan neu anfonwch neges e-bost i office@tcc-wales.org.uk fer atom yn egluro sut wnaethoch chi hynny. Yna byddwn yn anfon eich tystysgrif Hafan Meddyliau Iach atoch  

 

Rydym yn cydnabod, o fewn amgylchedd prysur a byrlymus ysgol, na fydd efallai’n bosibl i chi fodloni’r holl feini prawf ar y rhestr wirio. Fodd bynnag, bydd cymuned eich ysgol yn parhau i elwa o fuddsoddi faint bynnag o amser ag y gallwch i greu cymuned ddysgu sy’n teimlo’n gadarnhaol ynghylch maes iechyd meddwl, a gobeithiwn y bydd rhestr wirio Hafan Meddyliau Iach yn adnodd defnyddiol hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu ymgeisio am y wobr. Cafodd prosiect Hafan Meddyliau Iach ei ddatblygu gan arweinwyr ifanc sy’n arbenigwyr drwy brofiad, gyda chefnogaeth TCC (Trefnu Cymunedol Cymru/Together Creating Communities). Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gymorth gydag ymgeisio am y wobr, cysylltwch TCC, os gwelwch yn dda: office@tcc-wales.org.uk / 01978 262588.  

​

Byddem wrth ein bodd yn gweld y camau y byddwch yn eu cymryd yn eich ysgol – cofiwch rannu eich lluniau â ni ar FacebookInstagram a Twitter.

  

Pob hwyl ar eich taith 

 

Grŵp Ieuenctid yn Gweithredu TCC / TCC’s Youth in Action Group  

​

Ariennir ein gwaith gyda phobl ifanc gan sefydliadau Paul Hamlyn ac Esmée Fairbairn drwy’r Act for Change Fund.

PHF & Esmee graphics.PNG

37 Kingsmills Road, Wrexham. LL13 8NH

Charity no/rhif elusen: 1086434
Company no/rhif cwmni: 04033853

 

bottom of page